oo

Croeso

Sefydliad ymchwil Gristnogol, â’i gwreiddiau yng Nghymru yw Canolfan y Santes Fair, ac mae’n gweithio ym meysydd eang crefydd ac addysg. Yn unol â'i hethos Anglicanaidd, mae'r Ganolfan yn ymrwymedig i wasanaethu'r Eglwys a'r Gymdeithas ehangach. Yn cael ei chydnabod fel aelod o Golegau a Phrifysgolion y Gymundeb Anglicanaidd (CUAC), mae'r Ganolfan yn cydweithio â Phrifysgol Warwick (Coventry), Prifysgol yr Esgob Grosseteste (Lincoln), a Queen's College (St Johns, Newfoundland).


Ymchwil

Yn greiddiol i waith y Ganolfan mae datblygu a hyrwyddo ymchwil a allai lywio ymarfer yn uniongyrchol mewn cyd-destunau sy'n gysylltiedig ag eglwys, cysylltiedig ag ysgolion, ac yn gysylltiedig â chymuned.

Mae ein prosiectau ymchwil yn ymwneud â’r meysydd canlynol:
  • gweddi a mannau cysegredig
  • astudiaethau cynulleidfaoedd
  • eglwysi ac eglwysi cadeiriol
  • astudiaethau ymwelwyr a thwristiaeth
  • eglwysi gwledig, diwinyddiaeth wledig a chymunedau gwledig 
  • profiadau crefyddol ac ysbrydol
  • byw gydag amrywiaeth grefyddol
  • hynodrwydd ac effeithiolrwydd ysgolion eglwys
  • bwlio ac erledigaeth
  • lles clerigion ac iechyd seicolegol cysylltiedig â gwaith
  • gwytnwch a lles
  • teip seicolegol a gwahaniaethau unigol
Mae gwybodaeth am ein prosiectau ymchwil ar gael ar y wefan hon yn yr adran ymchwil.


Trosi ymchwil i ymarfer

Rydym yn trosi ein hymchwil i fod yn ymarferol trwy greu, ategu, a chynnig:
  • adnoddau cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd
  • adnoddau ar gyfer myfyrwyr Lefel A
  • adnoddau ar gyfer eglwysi a rhieni Cristnogol
  • seminarau a symposia
  • cyflwyniadau cyhoeddus i ymarferwyr
  • rhaglenni sy'n datblygu arfer myfyrgar seiliedig ar ymchwil 
  • ymgynghoriaeth
Mae'r adnoddau ein bod yn cynhyrchu ar gyfer ysgolion ac eglwysi ar gael ar y wefan hon yn yr adran adnoddau.


Rheolaeth

Rheolir Canolfan y Santes Fair gan y cwmni elusennol Canolfan y Santes Fair a San Silyn (Elusen Gofrestredig rhif 1141117)


Cysylltiadau

Cyfarwyddwr Gweithredol:    Parchg Ddr Tania ap Siôn, MA (Oxon), MA (Bangor), PhD (Warwick)
                                       Ebost: smc.taniaapsion@gmail.com

Cyfarwyddwr Anrhydeddus:     Parchg Ganon Athro Leslie J. Francis
                                          PhD, DLitt, ScD, DD, FBPsS, FAcSS
                                          Ebost: leslie.francis@warwick.ac.uk

Cymrawd Ymchwil:   Mrs Emma L. Eccles
                            Ebost: emma.eccles@bishopg.ac.uk


BETH SY'N NEWYDD

MEHEFIN 2021
Rhifyn 18 Herio Materion Crefyddol (fersiwn Saesneg)
Cylchgrawn ar-lein i gyfnogi astudiaethau crefyddol Safon Uwch
Adnoddau ar-lein am ddim.
Rhifyn 18 ar gael yma.
..............................
MAWRTH 2021
Rhifyn 17 Herio Materion Crefyddol
Rhifyn 17 (yn Gymraeg) ar gael yma.
..............................
RHAGFYR 2020
Rhifyn 17 Herio Materion Crefyddol
Cylchgrawn ar-lein i gyfnogi astudiaethau crefyddol Safon Uwch
Adnoddau ar-lein am ddim
Rhifyn 17 ar gael rwan
Archwiliwch y cylchgrawn
...............................

GORFFENNAF 2020

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Cynigion Deddfwriaethol ynghylch Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

..............................

Gwefan Newydd ar gyfer Randalph Ddoeth
Ewch i'r wefan newydd Randalph Ddoeth ar gyfer storiau am ymchwil ysbrydol a chwiliad am ystyr. Mae'r adnoddau dwyieithog hyn yn cefnogi Addysg Grefyddol / Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Cymru.

............................