Arolwg o’r Cyrsiau
Mae Canolfan y Santes Fair wedi ymrwymo i adnoddi Eglwysi sy’n dysgu ac Eglwysi dysgedig ochr yn ochr â chymuned wybodus a bywiog o weithwyr proffesiynol ym maes addysg grefyddol. Gan weithio gyda'n partneriaid proffesiynol ac academaidd, rydym yn datblygu rhaglenni academaidd, yn trefnu symposia, ac yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau addysg.Mae
Canolfan y Santes Fair ynghyd â’i chyfadran wedi sefydlu Cymuned Ddysgu
Ôl-radd aeddfed sy'n cwrdd dair gwaith y flwyddyn i rannu a datblygu
arferion myfyrgar wedi'u seilio ar ymchwil sy'n berthnasol i
gyd-destunau sy'n gysylltiedig ag eglwysi ac
ysgolion.
Cymuned Ddysgu Ôl-radd
Mae
ein Cymuned Ddysgu yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn mewn lleoliad
partner. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Gymuned Ddysgu wedi cyfarfod
yn Llyfrgell Gladstone, St Michael’s House yn Eglwys Gadeiriol
Coventry, Canolfan Arthur Rank ac, ers mis Hydref 2019, mae'r Gymuned
Ddysgu’n cwrdd yn Eglwys Anglicanaidd Lerpwl. Symposia
Mae Canolfan y Santes Fair yn trefnu Symposiwm blynyddol ar gyfer Diwinyddiaeth Ymarferol ac Addysg Grefyddol:
Mae
Canolfan y Santes Fair hefyd yn cydlynu'r Rhwydwaith ar gyfer Teip
Seicolegol a Ffydd Gristnogol sy'n galluogi rhannu cysylltiadau, arfer
da ac ymchwil yn y maes hwn ymhlith ei aelodau o'r DU ac aelodau
rhyngwladol.
Rhaglenni Academaidd
Mae Canolfan y Santes Fair wedi partneru â Queen’s College, Newfoundland yn natblygiad a darpariaeth y BTh mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth a Gweinidogaeth.
Mae'r rhaglen hon yn unigryw yn yr agweddau canlynol:
- Egwyddorion diwinyddol: Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar brofiad Cristnogol yr unigolyn o Dduw ac mae'n cynnig offer diwinyddiaeth i hyrwyddo myfyrio a dehongli profiad o'r fath. Yn y cyd-destun hwn, mae dysgu diwinyddol yn cysylltu dealltwriaeth ddeallusol â thrawsnewidiad personol. Mae diwinyddiaeth yn newid bywydau.
- Egwyddorion addysgeg: Gofyn y rhaglen yw mynychu cyfres o gyfarfodydd Grŵp Addysg Lleol ar gyfer pob modiwl. Gwahoddir cyfranogwyr i ddarllen deunydd ac i baratoi ymatebion ysgrifenedig byr cyn pob cyfarfod. Mae diwinyddiaeth yn cael ei harchwilio yn y gymuned.
- Disgyblaeth
a gweinidogaeth: Mae'r rhaglen yn cydnabod galwad ganolog Iesu i
ddisgyblaeth fel y llwyfan y mae galwadau i weinidogaeth yn dod i'r
amlwg ohono. Mae'r rhai sy'n ymwneud ag addysg a ffurfio
gweinidogaethau awdurdodedig (lleyg ac ordeiniedig) yn ymgymryd â'r
rhaglen hon ochr yn ochr â'r rhai sy'n ymwneud â dysgu disgyblaeth. Mae diwinyddiaeth ar gyfer holl bobl Duw.
Mae'r
radd BTh hon mewn Diwinyddiaeth ar gyfer Disgyblaeth a Gweinidogaeth yn
ddatblygiad o BA mewn Disgyblaeth a Gweinidogaeth, rhaglen academaidd a
phroffesiynol gynharach a ddatblygwyd gan Ganolfan y Santes Fair gydag
Esgobaeth Bangor ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru.
Rhwydweithiau
Mae Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Rhyng-Ewropeaidd ar Eglwys ac Ysgol (ICCS) wedi'i lleoli yng Nghanolfan y Santes Fair.Canolfan y Santes Fair sy’n gyfrifol am wefan Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC).