Cyrsiau
Rhwydwaith Teip a Ffydd
Mae Canolfan y Santes Fair yn gyd gysylltydd y Rhwydwaith Teip Seicolegol a’r Ffydd Gristnogol. Yr Athro Leslie J Francis yw’r cynullydd gyda Ms Ruth Pickles, a’r Ysgrifennydd yw Dr Tania ap Siôn.
Sefydlwyd y Rhwydwaith ym 2000 fel fforwm i’r rhai sy’n gwneud defnydd o theori Teip Seicolegol mewn amryfal ffyrdd o fewn yr eglwysi Cristnogol, gan gynnwys y sawl sy’n ymarfer MBTI, pobl academaidd a hyfforddwyr.
Mae amcanion y Rhwydwaith yn cynnwys:
- datblygu a gwella ymarfer proffesiynol
- trafod a beirniadu theori yn y maes
- galluogi a hyrwyddo ymchwil perthnasol
Er pan gafodd ei sefydlu, trefnodd y Rhwydwaith gynhadledd flynyddol sy’n cynnwys:
- gwahoddiad i siaradwyr allweddol
- gweithdai wedi eu seilio ar waith ymarferol
- seminarau ar ymchwil a theori
Manylion ar gyfer cynhadledd 2023
Dyddiad: 17-18 Hydref 2023
Lleoliad: Noddfa, Penmaenmawr
Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen archebu ar gael cyn bo hir.
- Gwybodaeth
- Ffurflen archebu
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Barchg Ddr Tania ap Siôn: smc.taniaapsion@gmail.com