Resources
Cyflwyno Cumberland
Mae Cumberland yn byw gyda taid a nain ac yn
ei anturiaethau mae’n dilyn y plant, James a Fran, pan fyddan nhw’n dod
i aros yn nhŷ taid a nain.
Mae'r gyfres
hon o lyfrau yn eich gwahodd i rannu anturiaethau Cumberland ochr yn
ochr â James a Fran, gan archwilio materion sy'n wirioneddol bwysig.
Mae'r materion hyn yn cynnwys cariad, llawenydd, teimlo'n unig, mwynhau
cwmni, bod yn drist, a bod yn hapus.
Cyhoeddir
y straeon hyn ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed gan Bear Lands Publishing
yng Nghanolfan y Santes Fair a'u hawdur yw David W. Lankshear. Maen nhw
ar gael am ddim fel cyflwyniadau PowerPoint y gellir eu llwytho i lawr
- cliciwch ar y teitl isod, agorwch y PowerPoint, ac ewch i’r sioe
sleidiau i gael darllen y stori!
How the dog got his name
Cumberland and the journey of a brick
Fe allai'r llyfr hwn fod yn ymwneud â defnyddioldeb brics, a'r gwahanol fathau o frics a welwn o'n cwmpas. Efallai ei fod yn ymwneud â sut rydyn ni'n teimlo pan fydd rhywun ddim ein heisiau, neu pan fydd rhywun yn dweud wrthym ein bod ni y maint, y siâp neu'r lliw anghywir i gydweddu. Fe allai hefyd ymwneud â theimlo'n ddefnyddiol. Ond, mwy na thebyg, fe fydd gan y plant rydych chi'n darllen y stori hon gyda nhw eu syniadau eu hunain am yr hyn sydd yn y stori.Cumberland and the summer walk
Mae'r llyfr hwn yn ymwneud â'r hyn rydyn ni'n meddwl sy'n brydferth, neu'r hyn rydyn ni'n ei hoffi, ac oedi i ystyried y pethau hyn. Efallai ei fod hefyd yn ymwneud â'r holl gyfrinachau a sgyrsiau braf y mae plant yn eu rhannu â'u teganau meddal, na fydd oedolion yn cael y fraint o’u clywed yn aml. Wrth gwrs, yn achos y plentyn neu'r plant rydych chi'n darllen y llyfr hwn gyda nhw, fe allai fod yn ymwneud â rhywbeth arall yn gyfan gwbl.
Cumberland and the unhappy day
Efallai bod y llyfr hwn yn ymwneud â bod yn anhapus ac yn ddig, efallai ei fod yn ymwneud â brifo teimladau eich ffrindiau. Efallai ei fod yn ymwneud ag unioni pethau, a rhoi a derbyn cariad. Yn well fyth, fe allai fod yn ymwneud â beth bynnag mae'r rhai sy'n clywed y stori yn ei feddwl yw ystyr y stori, ond dim ond trwy siarad â nhw y byddwch chi'n darganfod beth mae plant yn ei feddwl.
Cumberland at Christmas
Fe allai'r llyfr hwn fod yn ymwneud â theimlo eich bod yn cael eich gadael allan. Fe allai gyflwyno cyfleoedd i siarad am y Nadolig a'r traddodiadau teuluol sy'n rhan o'r ŵyl. Fe allai fod yn ymwneud â'r gwahaniaethau rhwng cwrdd â phobl yn eich cartref eich hun neu fynd i ymweld â nhw yn eu cartref nhw. Yn well fyth, fe allai fod yn ymwneud â beth bynnag mae'r rhai sy'n clywed y stori yn ei feddwl yw ystyr y stori, ond dim ond trwy siarad â nhw y byddwch chi'n darganfod beth mae plant yn ei feddwl.
Cumberland in goal
Fe allai'r llyfr hwn fod yn ymwneud â thegwch, neu am beidio â difetha amser braf trwy greu ffwdan. Efallai yr hoffech chi drafod a yw’r rhai sy’n clywed y stori o'r farn bod Fran yn iawn i adael i James ddweud bod yn gêm gyfartal. Fe allai fod yn ymwneud â phwy ddylai fod yr un i fynd i’r gôl. Fe allai fod yn ymwneud â brodyr hŷn pryfoclyd, neu am gael amser braf gyda theuluoedd. Yn well fyth, fe allai fod yn ymwneud â beth bynnag mae'r rhai sy'n clywed y stori yn ei feddwl yw ystyr y stori, ond dim ond trwy siarad â nhw y byddwch chi'n darganfod beth mae plant yn ei feddwl.
Cumberland and feeling sad
Mae plant yn aml yn beio eu hunain, ac am y pethau ‘drwg’ y maen nhw wedi’u gwneud, am brofiadau nad ydyn nhw’n cael eu hachosi ganddyn nhw o gwbl, ond y maen nhw’n teimlo’n ddrwg yn eu cylch. Efallai mai dyma un o'r pethau y mae'r stori hon yn ymwneud â nhw, neu efallai ei bod yn ymwneud â chadw cyfrinachau, neu am adael teganau allan yn yr ardd. Yn well fyth, fe allai fod yn ymwneud â beth bynnag mae'r rhai sy'n clywed y stori yn ei feddwl yw ystyr y stori, ond dim ond trwy siarad â nhw y byddwch chi'n darganfod beth mae plant yn ei feddwl.
Where is Cumberland?
Fe allai'r llyfr hwn fod yn ymwneud â mynd ar goll, neu efallai chwilio am rywbeth a gollwyd. Fe allai fod yn ymwneud â theuluoedd yn gweithio gyda'i gilydd - pawb yn ceisio helpu. Yn well fyth, fe allai fod yn ymwneud â beth bynnag mae'r rhai sy'n clywed y stori yn ei feddwl yw ystyr y stori, ond dim ond trwy siarad â nhw y byddwch chi'n darganfod beth mae plant yn ei feddwl.