Adnoddau
Hafan Ffydd
Cefndir
Ysgrifennwyd y
gân 'Hafan Ffydd' (y fersiynau Cymraeg a Saesneg) yn arbennig ar gyfer
mis Dathlu Addysg Grefyddol y Cyngor Addysg Grefyddol, fis Mawrth 2011.
Darparodd yr adnodd hwn gân ddathlu i’w rhannu, gan gysylltu pobl ifanc
o bob rhan o Gymru a Lloegr wrth iddyn nhw ddathlu Addysg Grefyddol yn
eu cyd-destunau lleol a chenedlaethol.
Hafan Ffydd heddiw
Mae i’r gân, fodd bynnag, berthnasedd sy'n mynd
ymhell y tu hwnt i fis Dathlu Addysg Grefyddol 2011. Mae Addysg
Grefyddol yng Nghymru a Lloegr heddiw yn darparu man lle gall pobl
ifanc ymgysylltu â chwestiynau sylfaenol, archwilio credoau,
athrawiaethau ac arferion, a mynegi eu hymatebion personol. Mae hyn yn
golygu bod Addysg Grefyddol yn ymwneud â chwestiynau a materion a all
fod yn bersonol ac yn sensitif. Mae’r cefndir hwn yn darparu’r
cyd-destun ar gyfer thema ganolog y gân, ‘Hafan Ffydd’ neu fan lle gall
pobl ifanc ddysgu amdanyn nhw’u hunain ac eraill mewn amgylchedd
cefnogol a pharchus. Mae'r gân yn gwerthfawrogi'r angen am fannau
cyfarfod o'r fath, a’u gwerth, ac yn croesawu'r potensial a'r heriau
perthynol a allai ddeillio o'r mannau hyn.Rhyddhawyd y gân gan Stiwdio Sain, gyda Dafydd Dafis, Eleri Fôn a chôr Ysgol Tryfan, ac mae ar gael i'w phrynu fel iTunes download.
Adnoddau
Gwybodaeth
hawlfraint: Mae caniatâd i ysgolion, cymunedau ffydd a grwpiau
anfasnachol eraill ddefnyddio'r trac cyfeiliant cerddorol y gellir ei
lwytho i lawr, ac i wneud copïau o'r sgôr a'r geiriau ar gyfer eu
perfformiadau o'r gân.
Hafan Ffydd (Welsh score)
Hafan Ffydd (Welsh words)
Place of Trust (English score)
Place of Trust (English words)