Adnoddau

Plant a'r Cymun

The Lord is HereThe Lord is Here!

Adnodd yw The Lord is Here! i helpu rhieni sy’n dymuno i’w plant deimlo’n gartrefol yn yr eglwys, yn ogystal ag athrawon a chlerigwyr sy’n dymuno addysgu am y gwasanaeth cymun.

Dewiswyd y lluniau i greu dolen gyswllt gref rhwng addoliad yr eglwys a phrofiadau a ffordd o feddwl sy’n nodweddiadol o blant 4-8 oed.

Darparwyd gan Leslie J Francis gyda’r arlunwaith gan Philip Vernon.

His Spirit is With Us

Rhaglen addysgol wedi ei sylfaenu ar y gwasanaeth cymun yw His Spirit is with Us gyda’r bwriad o ategu The Lord is Here

Datblygwyd 31 o themâu Ewcharistig sy’n cynnwys syniadau ar gyfer:

  • gweithdai plant, ysgolion Sul ac ysgolion eglwysig
  • projectau ar gyfer pob oedran a dysgu rhwng gwahanol oedrannau
  • pob oedran yn dathlu’r Ewcharist gyda’i gilydd

Ategir pob eitem â deunydd y gellir ei lungopïo.

Ysgrifenwyd gan Leslie J Francis a Diane Drayson.