Adnoddau
Mannau Addoli
Cyfres o chwe llyfr stori i blant rhwng 5 a 7 oed yw Mannau Addoli sy’n archwilio mannau arbennig mewn chwe gwahanol draddodiad crefyddol: Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam, Hindwaeth, Sikhaeth, a Bwdhaeth.
Mae dau deitl yn y gyfres a gyhoeddwyd gan RMEP ar gael yn awr. Mae fersiynau Cymraeg wedi eu cyhoeddi gan RMEP mewn cydweithrediad â Chanolfan y Santes Fair.
Gartref ac yn yr Eglwys
Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno dau o blant sy’n Gristnogion: Tom a’i deulu sy’n mynd i eglwys Anglicanaidd a Megan a’i theulu sy’n mynd i gapel y Bedyddwyr.
Mae’r llyfr yn archwilio’r agweddau allweddol ar addoli yn y ddwy eglwys trwy lygaid y plant.
Pwrpas y llyfrau stori yw ategu cwricwlwm y Cam Sylfaen a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.
Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.
Gartref ac yn y Synagog
Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno dau o blant Iddewig. Mae teulu Rachel yn mynd i synagog Uniongred a theulu David yn mynychu synagog Ddiwygiedig. Trwy lygaid y plant mae’r llyfr yn archwilio’r prif nodweddion yn eu haddoliad gartref ac yn y ddwy synagog.
Mae’r llyfr yn archwilio’r agweddau allweddol ar addoli yn y ddwy synagog trwy lygaid y plant.
Pwrpas y llyfrau stori yw ategu cwricwlwm y Cam Sylfaen a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.
Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.
Gartref ac yn y Vihara
Mae Garterf ac yn y Vihara’n cyflwyno dau o blant, Setia a Geshe, y ddau ohonynt yn Fwdhyddion.Mae’r llyfr yn archwilio nodweddion allweddol eu haddoliad gartref ac yn eu vihara trwy lygaid y plant.
Pwrpas y llyfrau yw cefnogi Cam Sylfaen y cwricwlwm
a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i
Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.
Gartref ac yn y Mandir
Lluniwyd y llyfrau storïol i gefnogi Cam Sylfaen y cwricwlwm a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.
Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt
yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu
llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.