Adnoddau

Teddy Horsley

Mae llyfrau stori cyfarwydd Teddy Horsley gan Leslie J Francis ar gyfer plant ifanc yn codi pontydd rhwng profiadau pob-dydd plentyn bach o’r byd a phrif themâu a storïau beiblaidd.

Mae teitlau diweddaraf Teddy Horsley’n cynnwys:

Teddy Horsley Feasts with JesusTeddy Horsley Feasts with Jesus
Mae Teddy Horsley a’i ffrindiau’n mynd i’r eglwys i gymryd rhan mewn drama am wledda gyda Iesu. Yn y ddrama adroddir hanes Iesu’n bwydo’r pum mil, swper olaf Iesu gyda’i ddisgyblion yn yr oruwch ystafell ac Iesu’n bwyta gyda’i ddisgyblion ar ôl yr atgyfodiad. Yn ogystal, mae Teddy’n darganfod fod Iesu gyda ni heddiw wrth dorri’r bara a’i rannu.
Christmas Time with Teddy HorsleyChristmas Time with Teddy Horsley
Mae Teddy Horsley a’i ffrindiau’n mynd i’r eglwys i berfformio drama’r Nadolig. Gan ddechrau ag ymweliad yr Angel Gabriel â Mair, maent yn actio stori ryfeddol geni Iesu. Cyflwynir hefyd y syniad y gallwn ni offrymu’r rhodd o’n calonnau yn ymateb i rodd ryfeddol Duw a’i Fab.
Teddy Horsley meets Jesus' DisciplesTeddy Horsley meets Jesus’ Disciples
Mae Teddy Horsley a’i ffrindiau’n mynd i’r eglwys i gymryd rhan mewn drama am Iesu a’i ddisgyblion. Mae’r ddrama’n adrodd hanes Iesu’n galw pob un o’i ddisgyblion gan ddweud  ‘Tyrd, dilyn fi.’ Mae gan bob disgybl waith arbennig i’w wneud i Iesu ac mae  Teddy’n dysgu fod Iesu’n galw pobl heddiw i fod yn ddisgyblion iddo ac i ddilyn lle bynnag mae ef yn arwain.

Mae teitlau eraill yn y Gyfres Teddy Horsley’n cynnwys:

  • The Windy Day - Teddy Horsley a’r Ysbryd Glân
  • Night Time- Mae Teddy Horsley’n teimlo’n ddiogel yn ystod y nos
  • Lights - Mae Teddy Horsley’n dathlu’r Nadolig
  • Music Makers - Mae Teddy a Betsy’n creu cerddoriaeth
  • Neighbours - Mae Betsy Bear yn helpu ei chymdogion
  • Explorer - Mae Teddy’n rhyfeddu at waith Duw fel crefftwr
  • Good Morning - Mae Teddy Horsley’n dysgu bod yn ddiolchgar
  • The Grumpy Day - Mae Teddy Horsley’n dysgu am faddeuant
  • Hide and Seek - Mae Teddy a Betsy’n gwybod fod Duw’n gofalu amdanynt
  • Do and Tell - Mae Teddy Horsley’n siarad â Duw
  • Autumn - Mae Betsy Bear yn dysgu am farwolaeth
  • Water - Teddy Horsley a’r Bedydd.
  • The Sunny Morning - Mae Teddy Horsley’n dathlu bywyd newydd y Pasg
  • People Everywhere - Mae Teddy a Betsy’n gweddïo Gweddi’r Arglwydd
  • The Picnic - Mae Teddy’n mynd i wasanaeth y Cymun
  • The Present - Mae Teddy Horsley’n cwrdd â’r Doethion
  • The Walk - Mae Betsy’n ymdeimlo â chariad Duw
  • The Rainy Day - Mae Teddy Horsley’n moli’r Tad, Y Mab a’r Ysbryd Glân
  • The Song - Mae Teddy Horsley’n canu cân y Greadigaeth
  • Ready, Teddy, God! Activities for Home, Church and School - Mae’n darparu gwybodaeth eang ynglyn ag addysg  Gristnogol plant ifanc a gweithgareddau cyffrous i ategu chwe stori Teddy Horsley.

Mae rhai o'r adnoddau hyn ar gael o http://shop.christianeducation.org.uk/category/teddy.ff

Ymweld â gwefan Tedi