Adnoddau
Cyfres Grefyddau'r Byd Heddiw
(ar gyfer dysgwyr 8-11 oed)
"Pwy yw eich ffrindiau? Ydych chi'n gwybod popeth amdanyn nhw?
Stori yw hon am ffrindiau sydd ddim yn gwybod popeth am ei gilydd. Ond maen nhw'n dechrau dysgu am rai pethau mae eu ffrindiau'n eu gwneud, a pham maen nhw'n eu gwneud. Darllenwch eu stori ac efallai y dysgwch chi rywbeth newydd hefyd!"
Am beth mae'r gyfres?
Dyma'r
gwahoddiad sydd wrth wraidd Cyfres Crefyddau'r Byd Heddiw, cyfres sy'n
ategu Addysg Grefyddol i blant 8- i 11 oed. Cawn wahoddiad i fyd
cyffrous sy’n ysgogi meddwl dau blentyn o'r enw Rhys a Sara wrth iddyn
nhw archwilio gwahanol grefyddau’r byd ac enwadau Cristnogol gyda'u
ffrindiau o'r gwahanol draddodiadau ffydd. Ymhob llyfr stori, mae Rhys
a Sara’n archwilio 5 agwedd ar fywyd sy'n dangos sut y gall credoau
berthnasu ag ymarfer. Maen nhw'n cael profiad o:
- fannau addoli;
- gwyliau;
- ffynonellau awdurdod;
- ffyrdd o ofalu am eraill ac am y byd;
- bwydydd arbennig.
Ar
ddiwedd pob llyfr stori, cawn ein gwahodd i ymuno â Rhys a Sara i
fyfyrio ar y pethau sy'n arbennig iddyn nhw, a sut mae'r pethau hyn yn
effeithio’n ymarferol ar eu bywydau. Beth fydden ni’n dewis ei rannu
â’n ffrindiau?
Cefndir i’r gyfres
Comisiynwyd
Cyfres Crefyddau’r Byd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru a'i chyhoeddi
gyntaf yn 2008/2009 gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru
(Prifysgol Bangor). Yn 2019, cyhoeddodd Bear Lands Publishing (Canolfan
y Santes Fair) argraffiad ar-lein newydd o'r adnodd poblogaidd a
gwerthfawr hwn, sydd ar gael i'w lwytho i lawr AM DDIM yma yn
Gymraeg a Saesneg.
Ymchwiliwyd yn helaeth wrth lunio’r
holl lyfrau stori, ac maen nhw wedi'u seilio'n rhannol ar gymunedau
crefyddol a mannau addoli go iawn yng Nghymru a Lloegr.
Cyrchu'r adnoddau
Mae’r gyfres yn cynnwys saith llyfr stori 32 tudalen, wedi'u darlunio â lliw ar gyfer disgyblion CA2, pob un â Llawlyfr Athrawon ynghlwm. Mae Llawlyfrau Athrawon yn darparu gwybodaeth gefndir fanwl am bob pwnc ynghyd â gweithgareddau gwersi a thaflenni gwaith y gellir eu llungopïo. Mae'r adnoddau ar gael yn Saesneg hefyd.
Noder: Rydym yn argrymell eich bod yn lawrlwytho'r adnoddau cyn eu defnyddio er mwyn osgoi unrhyw faterion gysylltiad rhyngrwyd. Mae'r llyfrau stori a'r canllawiau i athrawon yn ffeiliau pdf (ewch i 'View' i gael sioe sleidiau, tudalen sengl/dwy dudalen ac ati)
Addasiad Cymraeg: Nant Roberts.
Archwilio Islam
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon
Archwilio Iddewiaeth
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon
Archwilio'r Eglwys Uniongred
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon
Archwilio Eglwys y Plwyf
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon
Archwilio Hindwaeth
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon
Archwilio Bwdhaeth
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon
Archwilio Sikhiaeth
Llyfr Stori
Llawlyfr Athrawon