Ymchwil
Pobl Ifanc a Chrefydd yn Iwerddon
Mae Canolfan y Santes Fair wedi cydweithio â sawl partner proffesiynol dros nifer o flynyddoedd i gynnal astudiaeth o bobl ifanc Iwerddon a'u perthynas â chrefydd.Mae'r Prosiect Pobl Ifanc a Chrefydd yn
Iwerddon yn cynnwys tair astudiaeth arbennig ar sawl set o ddata a
gasglwyd ynghylch crefydd a phobl ifanc yn Iwerddon, gyda phob set o
ddata yn canolbwyntio ar genhedlaeth wahanol o bobl ifanc. Dadansoddwyd
dimensiynau lluosog pob set o ddata gan ystyried rhyw, cenedligrwydd,
dylanwad rhieni, ac addysg grefyddol y myfyrwyr. Cynhyrchodd y
dadansoddiad hwn gasgliadau craff ynghylch pynciau fel:
- budd cymdeithasol addysg grefyddol;
- effaith rhai ffactorau personol a chyd-destunol ar berthynas pobl ifanc â chrefydd;
- taflwybr eu perthynas â chrefydd dros amser.
Crynhowyd pob un o'r astudiaethau hyn yn y llyfr Religion and education: The voices of young people in Ireland, a olygwyd gan Dr Gareth Byrne a'r Athro Leslie J. Francis.
Astudiaeth I: Traddodiad Greer
Cydweithiodd
Canolfan y Santes Fair â Sefydliad Mater Dei yn Nulyn i efelychu ac
ymestyn yr ymchwil arloesol a sefydlwyd gan Dr John E Greer ymhlith
myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion Protestannaidd yng Ngogledd
Iwerddon ym 1968. Cafodd gwaith Greer ei ailadrodd yn systematig ym
1978, 1988, 1998 a 2010 yng Ngogledd Iwerddon o fewn ysgolion Catholig
yn ogystal ag ysgolion Protestannaidd, gan ymestyn hefyd i Weriniaeth
Iwerddon yn 2010. Cynhaliwyd pedwar dadansoddiad ar wahân o'r data, pob
un yn canolbwyntio ar ddimensiwn gwahanol o'r data. Mae crynodebau o bob un o'r cyhoeddiadau yn yr astudiaeth hon ar gael i'w llwytho i lawr.Astudiaeth II: Y Genhedlaeth Filflwyddol
Mae'r ail astudiaeth yn ddadansoddiad o ddata a gasglwyd o fewn y sector ysgolion Catholig yng Ngweriniaeth Iwerddon. Roedd y myfyrwyr a arolygwyd yn rhan o'r genhedlaeth o bobl ifanc a anwyd yn y degawd o gwmpas y flwyddyn 2000; cenhedlaeth sydd wedi cael ei galw'n Genhedlaeth Filflwyddol. Cynhaliwyd pedwar dadansoddiad ar wahân o'r data, pob un yn canolbwyntio ar ddimensiwn gwahanol o'r data. Mae crynodebau o bob un o'r cyhoeddiadau yn yr astudiaeth hon ar gael i'w llwytho i lawr.
Astudiaeth III: Addysg Grefyddol ac Amrywiaeth Grefyddol
Mae'r drydedd astudiaeth yn ymwneud â data a gasglwyd trwy'r arolwg Amrywiaeth Grefyddol a Phobl Ifanc a weinyddwyd gan Ganolfan Addysg Grefyddol Iwerddon (ICRE) ymhlith myfyrwyr 13 i 15 oed rhwng 2013 a 2015. Cynhaliwyd tri dadansoddiad ar wahân o'r data, pob un yn canolbwyntio ar wahanol ddimensiynau'r data fel budd cymdeithasol addysg grefyddol, effaith dylanwad rhieni ar bresenoldeb yn yr eglwys, a golwg fyd-eang anffyddwyr gwrywaidd ifanc. Mae crynodebau o bob un o'r cyhoeddiadau yn yr astudiaeth hon ar gael i'w llwytho i lawr.
Ymestynnodd
yr astudiaeth hon y Prosiect Agweddau Pobl Ifanc at Amrywiaeth
Grefyddol i gynnwys Gweriniaeth Iwerddon. Roedd y prosiect Amrywiaeth
Crefyddol yn brosiect tair blynedd a ariannwyd, gyda Rhaglen Crefydd a
Chymdeithas AHRC / ESRC (2009-2012) a gasglodd ac a ddadansoddodd
wybodaeth am bobl ifanc a'u hagweddau at amrywiaeth grefyddol ym mhob
un o bedair gwlad y DU (Lloegr , Gogledd Iwerddon, yr Alban, a Chymru)
yn ogystal â Llundain fel achos arbennig. Mae gwybodaeth fanylach yn
ogystal â chrynodebau o'r 48 cyhoeddiad a ddeilliodd o'r prosiect yn y
DU ar gael ar dudalen Pobl Ifanc ac Amrywiaeth Grefyddol y wefan hon.
Cyhoeddiadau ar gaelOs hoffech ddarllen mwy am unrhyw un o'r cyhoeddiadau hyn, cysylltwch â Chanolfan y Santes Fair. |