Ymchwil
Prosiect ar Weddi a Mannau Cysegredig
Ynghylch y prosiect
Caiff y Prosiect Gweddi a Mannau Cysegredig (a elwid gynt yn Brosiect Mannau Cysegredig a Gweddi) ei arwain ar y cyd gan y Parchg Ddr Tania ap Siôn a'r Parchg Ganon Ddr Randolph Ellis.Mae’r Prosiect yn ymwneud â ‘man’ a ‘gweddi’ mewn ffyrdd newydd trwy astudiaethau ymchwil archwiliadol a damcaniaethol, sy’n tynnu ar ddisgyblaethau athroniaeth, diwinyddiaeth, ffenomenoleg, realaeth ddamcaniaethol, gwyddorau cymdeithasol, ac addysg.
Yn ganolog i ethos y Prosiect mae:
- hyrwyddo arfer nad yw'n cymryd mai'r safiad beirniadol yw'r llwybr rhagosodedig i drylwyredd a dealltwriaeth;
- rhoi pwyslais ar archwilio, dyfalu, ac antur o fewn yr ansicrwydd sydd mewn bydoedd datganoledig dynol.
- datblygu ffenomenoleg gweddi a man cysegredig trwy drochi ac ymgysylltu'n uniongyrchol;
- datblygu sgwrs sy'n agor cymhlethdod man;
- ymwneud â man fel lle fel sy'n bodoli ynddo’i hun;
- ail-leoli a dad-ymhelaethu canologrwydd dynol mewn perthynas â mannau a phethau;
- tanseilio’r safbwynt ‘os yw pethau’n bodoli, maen nhw’n gwneud hynny er ein mwyn ni yn unig’;
- darganfod perthnasoedd rhwng man a gweddi;
- archwilio pwy sy'n meddiannu man cysegredig ac ym mha ffyrdd y maen nhw’n byw ynddo ac yn ei ddiffinio;
- ymchwilio i ‘gymunedau anweledig’ yn ymgysylltu â man cysegredig a gweddi, a’r hyn y gellir ei ddysgu oddi wrth y rhain;
- cwestiynu beth yw ‘man cysegredig’ a sut y caiff ei gydnabod;
- archwilio a yw man cysegredig yn fater cyhoeddus neu breifat.
Hanes y prosiect
Plannwyd
y syniad am y Prosiect Gweddi a Mannau Cysegredig yn 2007, pan ddaeth
Randolph a Tania at ei gilydd i rannu eu diddordeb cyffredin yn y
ceisiadau am weddïau a oedd yn cael eu gadael yng Nghapel Mair, Eglwys
Gadeiriol Bangor. Roedd Tania ar gamau cynnar archwilio nodweddion
ceisiadau am weddïau a oedd yn cael eu gadael mewn cyd-destunau
cysylltiedig â'r eglwys, tra roedd Randolph yn archwilio hynodrwydd yr
eglwys gadeiriol fel “lle agored” ac arwyddocâd hyn i weinidogaeth. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2014, daeth y Prosiect Gweddi a Mannau Cysegredig i fodolaeth yn ffurfiol mewn partneriaeth â Chanolfan y Santes Fair. Yn bur briodol, y gweithgaredd cyntaf a gomisiynwyd i’r Prosiect oedd datblygu cynnig ar gyfer ‘canolbwynt cysegredig’ yng Nghapel Mair Eglwys Gadeiriol Bangor (comisiwn a roddwyd gan gyn Ddeon yr Eglwys Gadeiriol, y Tra Pharchedig Ddr Sue Jones, sydd bellach yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Lerpwl). Er na chymerwyd yr adroddiad terfynol a’r cynnig ar gyfer y comisiwn hwn ymlaen ar y pryd oherwydd newid yn arweinyddiaeth yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor, mae’r ddogfen a ddeilliodd o hynny, The Report: Developing a shrinal-focus in the Lady Chapel of Bangor Cathedral (2015, a ddiwygiwyd yn 2016 ) yn arloesol i siapio a datblygu'n ehangach y Prosiect Gweddi a Mannau Cysegredig.
Disgyblaethau’n cwrdd
Ers ei sefydlu, mae'r Prosiect Gweddi a
Mannau Cysegredig wedi mynd ati i archwilio gweddi, lleoedd cysegredig,
a mannau cysegredig, trwy amrywiaeth o ddisgyblaethau. Daw Randolph ag
arbenigedd mewn disgyblaethau athroniaeth, ffenomenoleg a realaeth
ddamcaniaethol i'r Prosiect. Daw Tania ag arbenigedd mewn
diwinyddiaeth, addysg a methodoleg empirig i'r Prosiect.Mentrau ymchwil
Mae nifer o fentrau ymchwil parhaus yn perthyn i’r Prosiect, sy'n cynnwys creu a datblygu: - Archif Weddi Genedlaethol, sy'n cynnwys miloedd o weddïau o eglwysi cadeiriol, eglwysi a chysegrfeydd cyfrannog yng Nghymru a Lloegr;
- astudiaethau empeiraidd gwreiddiol ac archwiliadol o weddi a mannau cysegredig, gan dynnu ar ddeunydd o'r Archif Weddi Genedlaethol, yn ogystal â gweithio o fewn llefydd a mannau cysegredig eu hunain (mae’n bosib cael mynediad at gyhoeddiadau ar y dudalen we hon);
- astudiaethau athronyddol a ffenomenolegol gwreiddiol a damcaniaethol o weddi a mannau cysegredig, gan dynnu ar ddeunydd o'r Archif Weddi Genedlaethol, yn ogystal â gweithio o fewn llefydd a mannau cysegredig eu hunain (mae’n bosib cael mynediad at gyhoeddiadau ar y dudalen we hon);
- gwasgnod Spring-Source (sy'n cynnwys Cyfres Seminarau Spring-Source, gan ei gwneud yn hawdd cael mynediad at nifer o gyhoeddiadau);
- prosiectau ymchwil penodol gydag eglwysi cadeiriol, eglwysi a chysegrfeydd, yn ogystal â sefydliadau perthnasol eraill.
Cyhoeddiadau i’w llwytho i lawr
Cyhoeddiadau ar gaelLlwythwch i lawr y rhestr gyflawn o gyhoeddiadau astudiaethau diwinyddol a ffenomenolegol gweddi a mannau cysegredig o’r prosiect hwn yma. Os hoffech ddarllen mwy am unrhyw un o'r cyhoeddiadau hyn, cysylltwch â Chanolfan y Santes Fair. Mae cyhoeddiadau yng Nghyfres Seminarau Spring-Source ar gael yma. |
Ymchwil i ymarfer
Gan
fod trochi ac ymgysylltu'n uniongyrchol â man yn elfennau arwyddocaol a
gaiff eu hystyried yn y Prosiect Gweddi a Mannau Cysegredig, mae
perthynas agos rhwng ymchwil ac ymarfer. Mae ymchwil o'r Prosiect
Gweddi a Mannau Cysegredig yn llywio ac yn siapio ymarfer mewn nifer o
gyd-destunau. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys datblygu:- litwrgïau newydd ar gyfer mannau cysegredig penodol (gan gynnwys tri litwrgi newydd a luniwyd ar gyfer mannau cysegredig ar Ynys Môn: Gwasanaeth i Bererinion ar gyfer Iachau a Chyfanrwydd; Bendithio a Diolchgarwch am Gŵn; a Gwasanaeth Gŵyl Sant Tysilio 2019 Pren y Bywyd: Gwasanaeth bendithio);
- cyfres o lyfrau stori gwreiddiol ar gyfer ysgolion, Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr.
Litwrgi newydd: Gwasanaeth Gŵyl Sant Tysilio 2019 Pren y Bywyd: Gwasanaeth bendithio.
Capel Mair yn Eglwys Gadeiriol Bangor (Garawys 2014- Mai 2015) - Capel Mair wedi ei aildrefnu mewn ymateb i ymchwil a gynhaliwyd gan yr Astudiaeth ynghylch Gweddïo a Mannau Cysegredig.