Ymchwil


Astudiaethau Crefyddol Level-A

Ymchwil ar effaith astudio credoau, gwerthoedd a byd-olwg ar fyfyrwyr dros gyfnod o ddwy flynedd

Cyd-Ymchwilwyr Athro Leslie Francis (Uned Ymchwil i Grefyddau ac Addysg, Warwick  - WRERU: Warwick Religions and Education Research Unit) a Dr Stephen Parker  (Cymrawd Cyswllt, Uned Ymchwil i Grefyddau ac Addysg, Warwick) mewn cydweithrediad â Chanolfan y Santes Fair. Noddir y project gan Ymddiriedolaeth St Pedr, Saltley ac Ymddiriedolaeth St Gabriel.

       

Arolwg

Ymhlith y rhai sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol Lefel - A  ceir myfyrwyr sy’n meddu ar ffydd ac eraill nad oes ganddynt  ymrwymiad penodol.  Mae astudio’r newid yn eu hagwedd yn waith gwefreiddiol. Pwy yw’r myfyrwyr hyn? Beth yw eu cred am y trosgynnol yn awr? Beth yw eu hagwedd  at foesoldeb a ffydd (eu ffydd hwy eu hunain ac eraill?) A yw astudio hyd at Lefel - A yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r rhain?

Ymhlith amcanion allweddol Astudiaethau Crefyddol Lefel - A, cynhwysir y canlynol: bod angen i fyfyrwyr ‘fabwysiadu agwedd ymholgar a beirniadol ynghyd ag empathi wrth astudio crefydd’ (Manyleb 2007, AG TGAU Edexel), a ‘chefnogi myfyrwyr i feddwl am, a datblygu eu gwerthoedd eu hunain, eu barn a’u hagweddau yng ngoleuni’r hyn maent yn ei ddysgu’ (Manyleb 2008 AQA, Astudiaethau Crefyddol Lefel – A) Tybed a gyflawnir yr amcanion academaidd a phersonol hyn ac yn benodol, a ydynt yn dylanwadu ar fyfyrwyr sy’n astudio eu ffydd eu hunain yn feirniadol am y tro cyntaf.

Er enghraifft, mae’n nodweddiadol fod rhai Cristnogion sy’n dechrau ar astudiaeth academaidd o grefydd, yn aml yn profi argyfwng personol ac yn teimlo’r angen, naill ai i wrthod neu i dderbyn y wybodaeth newydd a gyflwynir. A yw’r her hon o safbwynt y ffydd sydd ganddynt yn barod, yn wir am y rhai sy’n meddu ar unrhyw ffydd (neu heb feddu ar ffydd o gwbl)? Yn benodol, a yw myfyrwyr sy’n astudio eu ffydd eu hunain a’r cwestiynau sydd ynghlwm wrthi y mae’n rhaid eu trafod yn feirniadol wrth astudio ar y lefel hon, yn teimlo eu bod yn gwestiynau sy’n eu herio a sut maent yn ymateb? A yw’r profiad o wneud Astudiaethau Crefyddol Lefel-A yn un cythryblus o safbwynt yr her mae’n ei chyflwyno i fyd-olwg myfyrwyr? A yw ffydd myfyrwyr neu eu hagwedd tuag at ffydd yn newid o ganlyniad i’w hastudiaethau? Ym mha ffyrdd  mae agweddau myfyrwyr tuag at eu ffydd neu eu gwerthoedd wedi newid (os o gwbl)? A yw astudio Astudiaethau Crefyddol Lefel - A yn effeithio ar fyfyrwyr sy’n meddu ar ffydd mewn ffordd wahanol i’r sawl nad oes ganddynt ymrwymiad crefyddol? Dim ond ychydig o ymchwil cymharol o berspectifau ffydd a wnaethpwyd ar draws persbectifau ffydd (a grwpiau heb ffyd ) er mwyn archwilio newidiadau mewn agweddau a gwerthoedd ar draws y grwpiau o ganlyniad i’r profiad o ddilyn cwrs Astudiaethau Crefyddol Lefel - A.

Mae'r arolwg wedi'i orffen.

       

Cyhoeddiadau ar gael

Lawrlwythwch y rhestr lawn o gyhoeddiadau o'r prosiect hwn (gan gynnwys crynodebau).
Os hoffech ddarllen mwy am unrhyw un o'r cyhoeddiadau hyn, cysylltwch â
 Chanolfan y Santes Fair.